PET(4) SAR 08
Y Pwyllgor Deisebau
Ymateb gan Dorian Williams
28 Mawrth 2013
William Powell AC
Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Annwyl William Powell AC
Diolch i chi am eich e-bost a ddaeth i law heddiw, 28.03.13.
Hoffwn ymateb fel Prifathro ac fel aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
Dyma farn Corff Llywodraethu’r Ysgol:
1. Nid yw’r Lluoedd Arfog yn cael cyfle i ddod mewn i Fro Myrddin i sgwrsio â disgyblion ac mae’r gwaharddiad yma mewn bodolaeth ers nifer o flynyddoedd.
2. Mae pob cais gan y Lluoedd Arfog i gynnig cefnogaeth o unrhyw fath, mewnbwn gyrfaol neu gweithgaredd allgyrsiol rhad ac am ddim yn cael ei wrthod, (ee diwrnod cadw’n heini (‘assault course day out’).
3. Yn yr achosion prin hynny pryd y mae disgybl wedi dewis ymuno â’r Lluoedd Arfog, nid yw’r ysgol yn rhwystro Swyddog Gyrfa Cymru a leolir yn yr ysgol rhag cynorthwyo’r unigolyn i dderbyn gwybodaeth perthnasol.
Diolch am y cyfle i rannu ein safiad.
Yn gywir
Dorian Williams
Prifathro